#

Y Pwyllgor Deisebau | 13 Tachwedd 2018
 Petitions Committee | 13 November 2018
 
 
 ,P-05-839 Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-839

Teitl y ddeiseb: Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru. 

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i droi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru, a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru.

Nid yw'r terfynau cyfreithiol presennol ar gyfer ansawdd aer yng Nghymru yn diogelu iechyd. Mae terfynau'r UE, a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU a chan Lywodraeth Cymru, yr un fath â'r terfynau canllaw uchaf a argymhellir gan y WHO ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2), ond maent yn llai llym na throthwy'r WHO ar gyfer llygryddion eraill sy'n niweidiol i iechyd megis deunydd gronynnol mân (PM2.5).

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i droi canllawiau'r WHO yn gyfraith yng Nghymru, a hynny drwy gyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru a fyddai'n mynd i'r afael â phrif ffynonellau llygredd aer a sicrhau bod pawb, o'r Llywodraeth a llywodraeth leol i fusnesau a'r cyhoedd, yn cydweithio i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd brys hwn.

Ymchwil a ariannwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon oedd yr ymchwil gyntaf i brofi bod dod i gysylltiad ag aer o ansawdd gwael yn y tymor byr a'r tymor hir yn gallu achosi problemau cardiofasgwlaidd difrifol a'u gwneud yn waeth. Cadarnhaodd ein hymchwil fod cysylltiad clir rhwng clefyd cardiofasgwlaidd a dod i gysylltiad â gronynnau tra mân PM2.5, a bod anadlu gronynnau mân yn gallu cynyddu'r risg i grwpiau bregus o gael trawiad ar y galon neu strôc o fewn 24 awr.

Amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod llygredd aer ym 2017 yn cyfrannu at 2,000 o farwolaethau cynnar yng Nghymru. Gorchmynnwyd i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â lefelau anghyfreithlon o nitrogen deuocsid, ond nid oes eto gynllun i fynd i'r afael â deunydd gronynnol, ac ychydig iawn o fanylion sydd ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn gwella'r gwaith monitro llygryddion ledled Cymru.

 

Byddai Deddf Aer Glân newydd i Gymru yn:

- Sicrhau bod cyfraith Cymru yn defnyddio canllawiau'r WHO ar gyfer llygredd aer;

- Cyflwyno ffioedd Parthau Aer Glân mewn ardaloedd sy'n torri neu sy'n agos at y terfynau ar gyfer nitrogen deuocsid a deunydd gronynnol, a neilltuo'r arian ar gyfer gwella ansawdd yr aer ymhellach;

- Sicrhau bod seilwaith a thechnoleg ar waith fel y gallai mwy o bobl ddefnyddio Cerbydau Allyriadau Tra Isel a thrafnidiaeth gyhoeddus;

- Buddsoddi mewn gwell monitro llygredd ledled Cymru, a sicrhau bod gwybodaeth am y risgiau i iechyd ar gael i grwpiau bregus;

- Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith llosgi coed yn y cartref ac o'r camau y gellir eu cymryd i'w lleihau.

 

Y cefndir

Mae gan Gymru rywfaint o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Mae gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau mater gronynnol uwch na Birmingham neu Fanceinion, a ffordd yng Nghaerffili yw'r ffordd fwyaf llygredig y tu allan i Lundain. Mae'r llygredd aer hwn yn cyfrannu tuag at oddeutu 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yng Nghymru. Fe'i disgrifiwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel argyfwng iechyd cyhoeddus brys, gan ddweud mai dim ond ysmygu sy’n waeth argyfwng. Mae rhai ardaloedd yng Nghymru wedi torri rheoliadau'r UE ers sawl blwyddyn, gyda Llywodraeth Cymru yn y pen draw yn cael ei herlynam ei diffyg gweithredu.

Yn wahanol i'r Alban, sydd â'i Strategaeth Ansawdd Aer ei hun a therfynau llygredd is, mae'r strategaeth ansawdd aer yng Nghymru wedi'i phennu i raddau helaeth gan reoliadau'r UE, a'i darparu gan Awdurdodau Lleol.

Y prif lygryddion aer sy'n effeithio ar iechyd yw nitrogen deuocsid (NO2), osôn (O3) a mater gronynnol, bach arall (PM). Mae dau fath o PM: Mae PM10 yn ddeunydd hyd at 10 micrometr (μm) ei faint a PM2.5 ar gyfer deunydd hyd at 2.5 μm. Daw'r llygryddion hyn o ystod o ffynonellau, ond mae'r mwyafrif helaeth yn deillio o losgi tanwydd. Mae hyn yn golygu mai trafnidiaeth ar y ffyrdd yw'r brif ffynhonnell allyriadau symudol, a phrosesau hylosgi neu gynhyrchu diwydiannol yw'r prif ffynonellau sefydlog.

Mae lefelau llygredd NO2 a PM yn waeth mewn ardaloedd sy'n agos at y ffynonellau hyn. Fel arfer mae PM yn cyrraedd lefelau uchel ger safleoedd diwydiannol, a chaiff NO2 ei fesur ar lefelau peryglus yn agos at ffyrdd prysur lle ceir tagfeydd. Mae'r rhan fwyaf o NO2 yn cael ei allyrru'n uniongyrchol, gan ei wneud yn llygrydd sylfaenol. Gall PM gael ei allyrru'n uniongyrchol fel llygrydd sylfaenol, ond mae hefyd yn ffurfio o adwaith llygryddion eraill yn yr atmosffer (llygrydd eilaidd).

Mewn cymhariaeth, gall osôn deithio pellteroedd hir a chyrraedd crynodiadau uchel mewn ardaloedd sy'n bell o ffynonellau. O ganlyniad, mae mynd i'r afael â lefelau osôn yn gofyn am ddull lefel uwch, fel arfer yn genedlaethol neu hyd yn oed yn rhyngwladol, o'i gymharu â'r dull a ddefnyddir gan Awdurdod Lleol ar gyfer lleihau achosion lleol o NO2 a PM. Mae hyn yn cael ei gymhlethu gan y ffaith bod osôn yn llygrydd eilaidd, gan ei gwneud yn anoddach nodi'r ffynonellau.

Mae rheoli ansawdd aer yng Nghymru yn digwydd yn bennaf ar lefel Awdurdod Lleol. Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol lunio adroddiadau cynnydd yn flynyddol, ac yn flaenorol, roedd yn ofynnol iddynt gynnal Asesiad Diweddaru a Sgrinio bob tair blynedd. Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol nodi ardaloedd lle y mae'n debygol yr eir y tu hwnt i'r terfynau llygredd aer a gweithredu Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA). Newidiwyd y system hon gyda chanllawiau wedi'u diweddaru ar Reolaeth Ansawdd Aer Lleol yn 2017.

Mae'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru hefyd yn cymryd rhan yn Fforwm Ansawdd Aer Cymru (WAQF). Mae'n cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a sawl sefydliad academaidd. Mae aelodau WAQF yn cyfarwyddo gweithrediad Gwefan a Chronfa Ddata Ansawdd Aer Cymru, sicrhau ansawdd a rheoli ansawdd a lledaenu'r holl ddata, a darparu cymorth a hyfforddiant i Awdurdodau Lleol. Mae WAQF yn darparu arbenigedd ac arweiniad i sicrhau bod gofynion statudol Rheolaeth Ansawdd Aer Lleol yn cael eu bodloni, ac yr adroddir ar ansawdd aer yng Nghymru mewn modd cywir, tryloyw ac amserol.

 

Deddfwriaeth a therfynau

Mae deddfwriaeth helaeth ynglŷn ag ansawdd aer yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys nifer o Gyfarwyddebau'r UE, Deddfau'r DU a Deddfau Cymru sy'n darparu fframwaith ar gyfer Strategaeth Ansawdd Aer y DU a Rheolaeth Ansawdd Aer Lleol yng Nghymru:

§    Cyfarwyddeb 2008/50/EC: ar ansawdd aer amgylchynol ac aer glanach i Ewrop (CAFE): yn disodli pum deddf flaenorol gan gynnwys terfynau NO2 a PM;

§    Cyfarwyddeb 2004/107/EC: (y 4ydd Epil Gyfarwyddeb): yn creu targedau ar gyfer dwysedd arsenig, cadmiwm, nicel a benzo(a)pyren mewn aer amgylchynol. Y nod yw osgoi, atal neu leihau effeithiau niweidiol y sylweddau hyn ar iechyd pobl a'r amgylchedd;

§    Deddf yr Amgylchedd 1995: yn sefydlu'r fframwaith ar gyfer Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer;

§    Deddf Aer Glân 1993: yn anelu at amddiffyn iechyd y cyhoedd rhag allyriadau mwg;

§    Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010: yn dod â therfynau a nodir yng Nghyfarwyddebau'r UE ar ansawdd aer (Tabl 1 isod) i gyfraith Cymru; a

§    Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, fel y'i diwygiwyd gan Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) 2002: yn dod â chyfarwyddebau cynharach yr UE i gyfraith Cymru.

Mae'r tabl isod yn nodi gwerthoedd terfyn ansawdd aer yr UE (a, thrwy drawsosod, rai Cymru) a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

 

Tabl 1: Terfynau llygredd aer o Gyfarwyddebau'r UE a Chanllawiau WHO

Llygrydd

Terfyn yr UE

Terfyn WHO

Cyfnod Cyfartalog

Nifer o achosion o dorri'r trothwy a ganiateir (UE)

NO2

200 μg / m-3

200 μg / m-3

1 awr

18

40 μg / m-3

40 μg / m-3

Blynyddol

-

PM10

50 μg / m-3

50 μg / m-3

24 awr

35

40 μg / m-3

20 μg / m-3

Blynyddol

-

PM2.5

25 μg / m-3

(20 μg / m-3 erbyn 2020)

10 μg / m-3

  25 μg / m-3 

Blynyddol

24 awr

-

Osôn

120 μg / m-3 (targed)

100 μg / m-3

8 awr yn barhaus neu bob awr

Cyfartaledd o 25 diwrnod dros dair blynedd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod nodau gan gynnwys y rheiny ar gyfer Cymru iachach a mwy cyfartal. Roedd lefelau o lygredd NO2 yn yr aer wedi'i gynnwys fel un o'r dangosyddion cenedlaethol sy'n cyd-fynd â'r Ddeddf. Cymerir y lefelau fel cyfartaledd cenedlaethol, wedi'u pwysoli yn ôl poblogaeth.

 

Camau Llywodraeth Cymru

Ar 24 Ebrill, gwnaeth Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd, ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar ansawdd aer. Dywedodd fod darparu aer glân yng Nghymru yn un o’i phrif flaenoriaethau. Amlinellodd nifer o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd aer. Dywedodd y Gweinidog y bydd yn cyflwyno rhaglen aer glân Cymru i ystyried tystiolaeth a datblygu a gweithredu camau sy'n ofynnol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru a'r sectorau er mwyn sicrhau aer glân. Nod cyntaf y Rhaglen fydd cydymffurfio â rhwymedigaethau ansawdd aer presennol. Dywedodd fod ei diben ehangach yn mynd y tu hwnt i gydymffurfio â'r gyfraith, ac mai ei nod fydd lleihau baich ansawdd aer gwael ar iechyd dynol a'r amgylchedd. Dywedodd y Gweinidog hefyd, 'Os bydd y rhaglen yn nodi bylchau yn yr ysgogiadau angenrheidiol er mwyn gwneud y gwelliannau gofynnol i ansawdd aer, byddaf yn ceisio datblygu deddfwriaeth newydd i fynd i'r afael â hyn'.

Bydd y Cynllun Aer Glân yn un o elfennau craidd rhaglen aer glân Cymru. Dywedodd y Gweinidog y bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi er mwyn ymgynghori arno erbyn diwedd 2018. Dywedodd y bydd yn:

§    Nodi’n fanylach sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu gwelliannau o ran ansawdd aer a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at nodau llesiant;

§    Nodi camau trawslywodraethol a sectoraidd sydd eu hangen i sicrhau aer glân;

§    Nodi’r mesurau cyfathrebu, ymgysylltu ac addysg angenrheidiol i annog newid ymddygiad; a

§    Chynnwys camau gweithredu i gryfhau rheoleiddio allyriadau o wahanol sectorau diwydiannol.

Yn ogystal, hefyd ar 24 Ebrill, cyflwynodd y Gweinidog becyn o fesurau ar gyfer gwella ansawdd aer yng Nghymru.

Hefyd, yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar Fframwaith Parth Aer Glân i Gymru. Mae’r Fframwaith arfaethedig yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol sy’n ystyried opsiynau i fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag ansawdd aer lleol. Mae’r Fframwaith yn disgrifio beth yw Parth Aer Glân, o dan ba amgylchiadau y gellid ei ddefnyddio, yr ystyriaethau allweddol i awdurdodau lleol sy’n dymuno sefydlu un. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn ystod o gwestiynau am addasrwydd dull Parth Aer Glân yng Nghymru, lefelau allyriadau derbyniol awgrymedig, a strwythur codi tâl posibl. 

Camau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Ionawr 2018, cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig (NHAMG) ymchwiliad byr i Ansawdd Aer yng Nghymru. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd Fforwm Ansawdd Aer Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ricardo Energy and Environment a'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur ynghylch materion sy'n effeithio ar ansawdd aer yng Nghymru. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd gan y British Lung Foundation ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch effeithiau ansawdd aer ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Ym mis Chwefror 2018, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad preifat ar ansawdd aer gan y British Lung Foundation, Cyfeillion y Ddaear Cymru a'r Athro Paul Lewis o Brifysgol Abertawe.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.